Ezekiel 2:3 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrthyf, Mab dyn, yr ydwyf fi yn dy ddanfon di at feibion Israel, at genedl wrthryfelgar, y rhai a wrthryfelasant i'm herbyn; hwynt‐hwy a'u tadau a droseddasant i'm herbyn, hyd gorff y dydd hwn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
yn dweud: “Ddyn, dw i'n dy anfon di at bobl Israel. Maen nhw wedi gwrthryfela yn fy erbyn i — nhw a'u hynafiaid hefyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd wrthyf, "Fab dyn, yr wyf yn dy anfon at blant Israel, at y genedl o wrthryfelwyr sydd wedi gwrthryfela yn fy erbyn; y maent hwy a'u hynafiaid wedi troseddu yn fy erbyn hyd y dydd heddiw.