Ezekiel 2:4 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Meibion wyneb‐galed hefyd a chadarn galon yr wyf fi yn dy ddanfon atynt: dywed dithau wrthynt, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Maen nhw'n bobl benstiff ac ystyfnig. Rwyt i ddweud wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
At blant wynebgaled ac ystyfnig yr wyf yn dy anfon, ac fe ddywedi wrthynt, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW.'