Ezekiel 2:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Tithau fab dyn, nac ofna rhagddynt, ac na arswyda er eu geiriau hwynt, er bod gwrthryfelwyr a drain gyda thi, a thithau yn trigo ymysg ysgorpionau: nac ofna rhag eu geiriau hwynt, ac na ddychryna gan eu hwynebau hwynt, er mai tŷ gwrthryfelgar ydynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ond paid dychryn pan fyddan nhw'n dy fygwth di. Bydd fel cael mieri a drain o dy gwmpas di ym mhobman, neu eistedd yng nghanol sgorpionau — ond paid ti bod ag ofn wrth iddyn nhw fygwth ac edrych yn gas arnat ti.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A thithau, fab dyn, paid 'u hofni hwy nac ofni eu geiriau, er eu bod yn gwrthryfela yn dy erbyn ac yn gwrthgilio, a thithau yn eistedd ar sgorpionau; paid ag ofni eu geiriau nac arswydo rhag eu hwynebau, oherwydd tylwyth gwrthryfelgar ydynt.