Ezekiel 20:26 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a'u halogais hwynt yn eu hoffrymau, wrth dynnu trwy dân bob peth a agoro y groth, fel y dinistriwn hwynt; fel y gwybyddent mai myfi yw yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma fi'n gadael iddyn nhw lygru eu hunain gyda'r rhoddion roedden nhw'n ei cyflwyno i'w duwiau — roedden nhw'n llosgi eu plentyn cyntaf yn aberth! Dylen nhw fod wedi gweld mor erchyll oedd y fath beth. Ro'n i eisiau iddyn nhw wybod mai fi ydy'r ARGLWYDD.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
gwneuthum iddynt eu halogi eu hunain 'u rhoddion trwy aberthu pob cyntafanedig, er mwyn imi eu brawychu, ac er mwyn iddynt wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.'