Ezekiel 20:28 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys dygais hwynt i'r tir a dyngaswn ar ei roddi iddynt, a gwelsant bob bryn uchel, a phob pren brigog; ac aberthasant yno eu hebyrth, ac yno y rhoddasant eu hoffrymau dicllonedd: yno hefyd y gosodasant eu harogl peraidd, ac yno y tywalltasant eu diod‐offrymau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedden nhw wedi cael dod i'r wlad roeddwn i wedi ei haddo iddyn nhw. Ond y funud roedden nhw'n dod ar draws bryn uchel neu goeden ddeiliog, roedden nhw'n aberthu ac yn cyflwyno offrymau oedd yn fy nigio i. Roedden nhw'n llosgi arogldarth i'w duwiau ac yn tywallt offrymau o ddiod iddyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddeuthum hwy i'r wlad yr oeddwn wedi tyngu y byddwn yn ei rhoi iddynt, a hwythau'n gweld bryn uchel neu bren deiliog, fe offryment aberthau yno a chyflwyno rhoddion a'm digiai; rhoddent yno eu harogldarth peraidd, a thywallt eu diodoffrwm.