Ezekiel 20:39 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Chwithau, tŷ Israel, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Ewch, gwasanaethwch bob un ei eilunod, ac ar ôl hyn hefyd, oni wrandewch arnaf fi: ond na halogwch mwy fy enw sanctaidd â'ch offrymau, ac â'ch eilunod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“‘Bobl Israel, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud wrthoch chi: “Ewch, bob un ohonoch chi — ewch i addoli'ch eilun-dduwiau! Ond wedyn, peidiwch sarhau fy enw sanctaidd i gyda'ch rhoddion a'ch eilunod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"A chwithau, du375? Israel, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Aed pob un ohonoch i addoli ei eilunod. Yna byddwch yn siu373?r o wrando arnaf fi, ac ni fyddwch yn halogi fy enw sanctaidd 'ch rhoddion ac 'ch eilunod.