Ezekiel 20:5 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Ar y dydd y dewisais Israel, ac y tyngais wrth had tŷ Jacob, ac y'm gwneuthum yn hysbys iddynt yn nhir yr Aifft, pan dyngais wrthynt, gan ddywedyd, Myfi yw yr ARGLWYDD eich DUW chwi;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dywed wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Pan ddewisais Israel a cyflwyno fy hun i ddisgynyddion Jacob, dyma fi'n tyngu llw ac yn addo iddyn nhw, “Fi ydy'r ARGLWYDD, eich Duw chi.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a dywed wrthynt, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Yn y dydd y dewisais Israel, tyngais wrth ddisgynyddion tylwyth Jacob, a datguddiais fy hun iddynt yng ngwlad yr Aifft; tyngais wrthynt a dweud, "Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw."