Ezekiel 20:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Er hynny gwrthryfelasant i'm herbyn, ac ni fynnent wrando arnaf: ni fwriasant ymaith ffieidd‐dra eu llygaid bob un, ac ni adawsant eilunod yr Aifft. Yna y dywedais, Tywalltaf arnynt fy llidiowgrwydd, a gyflawni fy nig arnynt yng nghanol gwlad yr Aifft.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond roedden nhw'n tynnu'n groes i mi, ac yn gwrthod gwrando. Wnaethon nhw ddim cael gwared â'i heilun-dduwiau ffiaidd, na throi cefn ar eilunod yr Aifft. Dyma fi'n bygwth tywallt fy llid arnyn nhw, a dangos faint roeddwn i wedi gwylltio pan oedden nhw'n dal yn yr Aifft,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"'Ond bu iddynt wrthryfela yn f'erbyn a gwrthod gwrando arnaf; ni wnaeth yr un ohonynt fwrw ymaith y pethau atgas yr oedd eu llygaid yn syllu arnynt, na gadael eilunod yr Aifft. Bwriadwn dywallt fy llid a dod 'm dicter arnynt yng ngwlad yr Aifft;