Ezekiel 21:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwaedda ac uda, fab dyn; canys hwn fydd ar fy mhobl, hwn fydd yn erbyn holl dywysogion Israel; dychryn gan y cleddyf fydd ar fy mhobl: am hynny taro law ar forddwyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwaedda, ddyn, galara! Mae'r cleddyf i daro fy mhobl, ac arweinwyr Israel i gyd! Bydd y galar yn llethol!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwaedda ac uda, fab dyn, oherwydd y mae yn erbyn fy mhobl, yn erbyn holl dywysogion Israel fe'u bwrir hwythau i'r cleddyf gyda'm pobl; felly trawa dy glun.