Ezekiel 21:14 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Tithau, fab dyn, proffwyda, a tharo law wrth law, a dybler y cleddyf y drydedd waith: cleddyf y lladdedigion, cleddyf lladdedigaeth y gwŷr mawr ydyw, yn myned i'w hystafelloedd hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i eisiau i ti broffwydo, ddyn, ac ysgwyd dy ddwrn arnyn nhw. Dywed, ‘Bydd y cleddyf yn taro ddwywaith … na, tair! Cleddyf i ladd! Bydd cleddyf y lladdfa fawr yn closio o bob cyfeiriad!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Ac yn awr, fab dyn, proffwyda, a thrawa dy ddwylo yn erbyn ei gilydd; chwifier y cleddyf ddwywaith a thair cleddyf i ladd ydyw, cleddyf i wneud lladdfa fawr, ac y mae'n chwyrlo o'u hamgylch.