Ezekiel 21:24 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW, Am beri ohonoch gofio eich anwiredd, gan amlygu eich camweddau, fel yr ymddengys eich pechodau yn eich holl weithredoedd; am beri ohonoch eich cofio, y'ch delir â llaw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Dych chi wedi ei gwneud hi'n gwbl amlwg eich bod chi'n euog. Dych chi wedi troseddu, a does gynnoch chi ddim cywilydd o'ch pechod. Mae pawb yn ei weld! Felly byddwch yn cael eich cymryd yn gaeth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Oherwydd ichwi ddwyn eich trosedd i gof trwy eich gwrthryfel agored, ac amlygu eich pechodau yn y cyfan a wnewch, oherwydd i chwi wneud hyn, fe'ch caethiwir.