Ezekiel 21:28 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Proffwyda dithau, fab dyn, a dywed, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW am feibion Ammon, ac am eu gwaradwydd hwynt; dywed di, Y cleddyf, y cleddyf a dynnwyd: i ladd y gloywyd ef, i ddifetha oherwydd y disgleirdeb:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ond yna, ddyn, proffwyda fel yma, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud am gosb pobl Ammon: Cleddyf! Cleddyf, yn cael ei chwifio i ladd. Wedi ei sgleinio i ddifa, ac yn fflachio fel mellten.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Yn awr, fab dyn, proffwyda a dywed, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW wrth yr Ammoniaid a'u heilun: Cleddyf! Cleddyf wedi ei dynnu i ladd, wedi ei loywi i ddifa ac i ddisgleirio fel mellten!