Ezekiel 22:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwobr a gymerent ynot am dywallt gwaed; cymeraist usuriaeth ac ocraeth, ac elwaist ar dy gymdogion trwy dwyll, ac anghofiaist fi, medd yr ARGLWYDD DDUW.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae yna rai sy'n derbyn tâl i lofruddio. Dych chi'n cymryd mantais o bobl drwy godi llog uchel ar fenthyciadau, ac yn gorfodi arian oddi ar bobl. Dych chi wedi fy anghofio i,” meddai'r ARGLWYDD, y Meistr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae ynot rai sy'n derbyn llwgrwobr am dywallt gwaed; yr wyt yn cymryd llog ac elw, ac yn elwa ar dy gymdogion trwy drais. Anghofiaist fi, medd yr Arglwydd DDUW.