Ezekiel 22:26 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ei hoffeiriaid a dreisiasant fy nghyfraith, ac a halogasant fy mhethau sanctaidd: ni wnaethant ragor rhwng cysegredig a halogedig, ac ni wnaethant wybod rhagor rhwng yr aflan a'r glân; cuddiasant hefyd eu llygaid oddi wrth fy Sabothau, a halogwyd fi yn eu mysg hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r offeiriaid yn torri fy nghyfraith ac yn halogi'r pethau sanctaidd sy'n cael eu cyflwyno i mi. Dŷn nhw ddim yn gwahaniaethu rhwng y cysegredig a'r cyffredin, na rhwng y glân a'r aflan. Maen nhw'n diystyru'r Sabothau rois i iddyn nhw. Maen nhw'n pardduo fy enw i!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae ei hoffeiriaid yn treisio fy nghyfraith ac yn halogi fy mhethau sanctaidd; nid ydynt yn gwahaniaethu rhwng sanctaidd a chyffredin, nac yn cydnabod gwahaniaeth rhwng gln ac aflan; y maent yn anwybyddu fy Sabothau, ac fe'm halogir yn eu mysg.