Ezekiel 22:28 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ei phroffwydi hefyd a'u priddasant hwy â chlai annhymherus, gan weled gwagedd, a dewinio iddynt gelwydd, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW, a'r ARGLWYDD heb ddywedyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae ei phroffwydi yn honni eu bod wedi cael gweledigaeth neu neges gan Dduw pan nad ydyn nhw go iawn. ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud,’ medden nhw. Ond dydy'r ARGLWYDD ddim wedi dweud y fath beth! Maen nhw'n meddwl fod peintio drosti yn mynd i wneud wal simsan yn saff!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae ei phroffwydi'n gwyngalchu drostynt gweledigaethau gau ac argoelion twyllodrus, ac yn dweud, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW', a'r ARGLWYDD heb ddweud.