Ezekiel 23:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y rhai hynny a ddatguddiasant ei noethni hi: hwy a gymerasant ei meibion hi a'i merched, ac a'i lladdasant hithau â'r cleddyf: a hi a aeth yn enwog ymysg gwragedd: canys gwnaethent farn arni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw'n rhwygo ei dillad oddi arni, cymryd ei meibion a'i merched yn gaethion ac yna ei lladd hi. Roedd ei henw'n warth. Roedd y merched i gyd yn meddwl ei bod hi wedi cael beth roedd yn ei haeddu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bu iddynt hwythau ei dinoethi, cymryd ei meibion a'i merched, a'i lladd hithau 'r cleddyf. Daeth yn enwog ymysg gwragedd, a rhoddwyd barn arni.