Ezekiel 23:25 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A mi a osodaf fy eiddigedd yn dy erbyn, a hwy a wnânt â thi yn llidiog: dy drwyn a'th glustiau a dynnant ymaith, a'th weddill a syrth gan y cleddyf: hwy a ddaliant dy feibion a'th ferched; a'th weddill a ysir gan y tân.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dw i wedi cynhyrfu, a dw i'n mynd i ddangos i ti mor wyllt ydw i! Bydd y fyddin sy'n ymosod arnat ti yn dy drin di'n gwbl farbaraidd! Byddan nhw'n torri trwynau a chlustiau pobl i ffwrdd, ac yn lladd pawb yn gwbl ddidrugaredd. Byddan nhw'n cymryd dy blant yn gaethion, a bydd pawb sydd ar ôl yn cael eu llosgi'n fyw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Trof f'eiddigedd yn dy erbyn, ac fe weithredant fy llid arnat; torrant ymaith dy drwyn a'th glustiau, a bydd y rhai a adewir ohonot yn syrthio trwy'r cleddyf; cymerant dy feibion a'th ferched, ac fe losgir y rhai a adewir thn.