Ezekiel 23:32 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Dwfn a helaeth gwpan dy chwaer a yfi: ti a fyddi i'th watwar ac i'th ddirmygu: y mae llawer yn genni ynddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Byddi'n yfed o gwpan dy chwaer — cwpan fawr, ddofn, yn llawn i'r ymylon (a bydd pawb yn gwneud hwyl ar dy ben.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: 'Fe yfi o gwpan dy chwaer, cwpan dwfn a llydan; fe fyddi'n wawd ac yn watwar, oherwydd fe ddeil lawer.