Ezekiel 23:37 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Iddynt dorri priodas, a bod gwaed yn eu dwylo; ie, gyda'u heilunod y puteiniasant; eu meibion hefyd y rhai a blantasant i mi, a dynasant trwy dân iddynt i'w hysu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Maen nhw wedi godinebu a thywallt gwaed. Maen nhw wedi godinebu drwy addoli eilun-dduwiau, a thywallt gwaed eu plant drwy eu llosgi'n aberth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd bu iddynt odinebu, ac y mae gwaed ar eu dwylo; buont yn godinebu gyda'u heilunod, ac yn aberthu'n fwyd iddynt hyd yn oed y plant a anwyd i mi ohonynt.