Ezekiel 24:13 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn dy aflendid y mae ysgelerder: oherwydd glanhau ohonof di, ac nid wyt lân, o'th aflendid ni'th lanheir mwy, hyd oni pharwyf i'm llid orffwys arnat.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“‘Yr amhuredd ydy dy ymddygiad anweddus di. Dw i wedi ceisio dy lanhau di, ond i ddim pwrpas. Fyddi di ddim yn lân eto nes bydda i wedi tywallt fy llid i gyd arnat ti.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dy amhuredd di yw anlladrwydd; oherwydd imi geisio dy lanhau, ac na ddoit yn ln o'th amhuredd, ni fyddi'n ln eto nes i'm llid yn dy erbyn dawelu.