Ezekiel 24:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Myfi yr ARGLWYDD a'i lleferais: daw, a gwnaf; nid af yn ôl ac nid arbedaf, ac nid edifarhaf. Yn ôl dy ffyrdd, ac yn ôl dy weithredoedd, y barnant di, medd yr ARGLWYDD DDUW.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yr ARGLWYDD ydw i, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod! Mae'r amser wedi dod i mi wneud rhywbeth! Does dim troi'n ôl. Fydda i'n dangos dim piti, nac yn teimlo'n sori am y peth. Dw i'n mynd i dy gosbi di am y cwbl rwyt ti wedi ei wneud, meddai'r ARGLWYDD, y Meistr.’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Myfi, yr ARGLWYDD, a lefarodd; daeth yn amser imi weithredu. Ni fyddaf yn ymatal, nac yn tosturio nac yn trugarhau. Fe'th fernir yn l dy ffyrdd a'th weithredoedd,' medd yr Arglwydd DDUW."