Ezekiel 24:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wele, fab dyn, fi yn cymryd oddi wrthyt ddymuniant dy lygaid â dyrnod: eto na alara ac nac wyla, ac na ddeued dy ddagrau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ddyn, dw i'n gwybod fod hyn yn mynd i fod yn ergyd galed, ond dw i'n mynd i gymryd y wraig wyt ti wedi gwirioni arni oddi arnat ti. Ond paid galaru amdani. Paid wylo. Paid colli dagrau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Fab dyn, ag un trawiad yr wyf am gymryd oddi wrthyt yr un fwyaf dymunol yn dy olwg, ond nid wyt i alaru nac wylo na cholli dagrau.