Ezekiel 24:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ysgrifenna i ti enw y dydd hwn, fab dyn, ie, corff y dydd hwn: ymosododd brenin Babilon yn erbyn Jerwsalem o fewn corff y dydd hwn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ddyn, dw i eisiau i ti ysgrifennu dyddiad heddiw i lawr. Heddiw ydy'r union ddiwrnod mae brenin Babilon wedi dechrau ymosod ar Jerwsalem.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Fab dyn, gwna gofnod o enw'r dydd hwn, ie, yr union ddydd hwn, oherwydd heddiw y gosododd brenin Babilon warchae ar Jerwsalem.