Ezekiel 24:27 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn y dydd hwnnw yr agorir dy safn wrth yr hwn a ddihango; lleferi hefyd, ac ni byddi fud mwy: a byddi iddynt yn arwydd; fel y gwypont mai myfi yw yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A byddi di'n cael siarad yn rhydd eto. Byddi'n siarad gyda'r un wnaeth ddianc, a ddim yn gorfod cadw'n dawel ddim mwy. Dw i'n dy ddefnyddio di fel darlun i ddysgu gwers i bobl Israel, iddyn nhw ddeall mai fi ydy'r ARGLWYDD.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y diwrnod hwnnw fe agorir dy enau; fe siaredi 'r ffoadur ac ni fyddi'n fud mwyach. Byddi'n arwydd iddynt, a byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.'"