Ezekiel 25:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywed wrth feibion Ammon, Gwrandewch air yr ARGLWYDD DDUW; Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW, Am ddywedyd ohonot, Ha, ha, yn erbyn fy nghysegr, pan halogwyd; ac yn erbyn tir Israel, pan anrheithiwyd; ac yn erbyn tŷ Jwda, pan aethant mewn caethglud:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dywed wrth bobl Ammon, ‘Gwrandwch ar neges y Meistr, yr ARGLWYDD, i chi. Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: “Ha, ha!” meddech chi. Roeddech chi'n chwerthin pan gafodd y deml ei dinistrio, gwlad Israel ei gadael yn anial, a phobl Jwda eu caethgludo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywed wrthynt, 'Gwrandewch air yr Arglwydd DDUW. Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Oherwydd iti ddweud, "Aha!" pan halogwyd fy nghysegr a phan anrheithiwyd tir Israel a phan ddygwyd tu375? Jwda i gaethglud,