Ezekiel 25:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny wele, mi a estynnaf fy llaw arnat, ac a'th roddaf yn fwyd i'r cenhedloedd, ac a'th dorraf ymaith o fysg y bobloedd, ac a'th ddifethaf o'r tiroedd: dinistriaf di; fel y gwypech mai myfi yw yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
dw i'n mynd i'ch taro chi'n galed! Dw i'n mynd i adael i'r cenhedloedd eich cymryd chi. Byddwch chi'n peidio bod yn genedl. Dw i'n mynd i'ch dinistrio chi'n llwyr. A byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD!’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
am hynny yr wyf am estyn fy llaw yn dy erbyn a'th roi yn anrhaith i'r cenhedloedd; torraf di ymaith o blith y bobloedd a'th ddifetha o fysg y gwledydd. Fe'th ddinistriaf, a byddi'n gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.