Ezekiel 26:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna holl dywysogion y môr a ddisgynnant o'u gorseddfeinciau, ac a fwriant ymaith eu mantelloedd, ac a ddiosgant eu gwisgoedd symudliw: dychryn a wisgant, ar y ddaear yr eisteddant, ac a ddychrynant ar bob moment, ac a synnant wrthyt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd llywodraethwyr yr arfordir i gyd yn camu i lawr o'i gorseddau. Byddan nhw'n tynnu eu clogynnau brenhinol a'u dillad hardd. Dychryn fydd yr unig wisg amdanyn nhw. Byddan nhw'n eistedd ar lawr yn crynu trwyddynt o achos beth fydd wedi digwydd i ti.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna bydd holl dywysogion y mr yn disgyn oddi ar eu gorseddau, yn tynnu eu mentyll ac yn diosg eu gwisgoedd o frodwaith. Byddant wedi eu gwisgo dychryn, yn eistedd ar lawr ac yn crynu bob eiliad, ac wedi eu brawychu o'th achos.