Ezekiel 26:17 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Codant hefyd alarnad amdanat, a dywedant wrthyt, Pa fodd y'th ddifethwyd, yr hon a breswylir gan forwyr, y ddinas ganmoladwy, yr hon oedd gref ar y môr, hi a'i thrigolion, y rhai a roddasant eu harswyd ar ei holl ymdeithwyr hi?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddan nhw'n canu'r gân yma o alar ar dy ôl: O ddinas enwog ar y môr, rwyt wedi dy ddinistrio! Ti oedd yn rheoli'r tonnau, gyda dy bobl yn codi dychryn ar y ddynoliaeth gyfan.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna, fe godant alarnad a dweud amdanat, "O, fel y dinistriwyd di, y ddinas enwog a fu'n gartref i forwyr! Buost yn rymus ar y moroedd, ti a'th drigolion, a gosodaist dy arswyd ar dy holl drigolion.