Ezekiel 26:20 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'th ddisgyn ohonof gyda'r rhai a ddisgynnant i'r pwll, at y bobl gynt, a'th osod yn iselderau y ddaear, yn yr hen anrhaith, gyda'r rhai a ddisgynnant i'r pwll, fel na'th breswylier; a rhoddi ohonof ogoniant yn nhir y rhai byw;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddi'n cael dy hun yn y Pwll — pwll marwolaeth; yn gorwedd yno gyda phobl sydd wedi marw ers talwm. Byddi'n adfeilion wedi dy gladdu yn nyfnder y ddaear. Fydd neb yn byw ynot ti, a fyddi di byth eto'n cael dy barchu ar dir y byw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
yna fe'th fwriaf i lawr gyda'r rhai sy'n disgyn i'r pwll at bobl o'r oesoedd gynt. Gwnaf iti fyw yn y tir isod, fel mewn hen adfeilion, gyda'r rhai sy'n disgyn i'r pwll; ac ni ddychweli i gymryd dy le yn nhir y rhai byw.