Ezekiel 27:12 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Tarsis oedd dy farchnadyddes oherwydd amldra pob golud; ag arian, haearn, alcam, a phlwm, y marchnatasant yn dy ffeiriau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“‘Roeddet ti'n masnachu gyda Tarshish bell, ac yn cyfnewid arian, haearn, tin a phlwm am dy nwyddau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"'Yr oedd Tarsis yn marchnata gyda thi oherwydd dy holl gyfoeth, ac yn rhoi iti arian, haearn, alcam a phlwm yn gyfnewid am dy nwyddau.