Ezekiel 27:7 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Lliain main o'r Aifft o symudliw oedd yr hyn a ledit i fod yn hwyl i ti; glas a phorffor o ynysoedd Elisa, oedd dy do.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dy hwyl o liain main gorau'r Aifft wedi ei brodio'n batrymau, ac yn faner i bawb dy nabod. Y llen dros y dec yn borffor a phiws; defnydd o lannau Elisha.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Lliain wedi ei frodio o'r Aifft oedd dy hwyliau, ac yn gwneud baner iti; yr oedd dy gysgodlenni yn las a phorffor o ororau Elisa.