Ezekiel 28:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Byddi farw o farwolaeth y dienwaededig, trwy law dieithriaid: canys myfi a'i dywedais, medd yr ARGLWYDD DDUW.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddi'n cael dy ladd yn y ffordd fwya creulon gan fyddin o wlad estron. Fi ydy'r ARGLWYDD, y Meistr, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod.’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Byddi'n profi marwolaeth y dienwaededig trwy ddwylo estroniaid. Myfi a lefarodd,' medd yr Arglwydd DDUW."