Ezekiel 28:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Cyfod, fab dyn, alarnad am frenin Tyrus, a dywed wrtho, Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Ti seliwr nifer, llawn o ddoethineb, a chyflawn o degwch,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ddyn, dw i eisiau i ti ganu cân i alaru ar ôl brenin Tyrus. Dywed wrtho, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Roeddet ti'n batrwm o berffeithrwydd! Mor ddoeth, ac yn rhyfeddol o hardd!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Fab dyn, cod alarnad am frenin Tyrus a dywed wrtho, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Yr oeddit yn esiampl o berffeithrwydd, yn llawn doethineb, a pherffaith dy brydferthwch.