Ezekiel 28:17 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Balchïodd dy galon yn dy degwch, llygraist dy ddoethineb oherwydd dy loywder: bwriaf di i'r llawr; o flaen brenhinoedd y'th osodaf, fel yr edrychont arnat.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roeddet wedi troi'n falch am dy fod mor hardd. Camddefnyddio dy ddoethineb am dy fod mor llawn ohonot dy hun. A dyna pam wnes i dy fwrw i lawr, a gwneud sioe ohonot ti o flaen brenhinoedd eraill.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ymfalchodd dy galon yn dy brydferthwch, a halogaist dy ddoethineb er mwyn d'ogoniant; lluchiais di i'r llawr, a'th adael i'r brenhinoedd edrych arnat.