Ezekiel 28:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ha fab dyn, dywed wrth dywysog Tyrus, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Am falchïo dy galon, a dywedyd ohonot, DUW ydwyf fi, eistedd yr ydwyf yn eisteddfa DUW yng nghanol y moroedd; a thi yn ddyn, ac nid yn DDUW, er gosod ohonot dy galon fel calon DUW:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dywed wrth dywysog Tyrus, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Ti mor falch! Ti'n meddwl dy fod ti'n dduw, ac yn eistedd ar orsedd y duwiau yng nghanol y moroedd! Duw wir! Dim ond dyn meidrol wyt ti, er dy fod yn honni pethau mor fawr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Fab dyn, dywed wrth lywodraethwr Tyrus, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Ym malchder dy galon fe ddywedaist, "Yr wyf yn dduw, ac yn eistedd ar orsedd y duwiau yng nghanol y mr." Ond dyn wyt, ac nid duw, er iti dybio dy fod fel duw