Ezekiel 28:22 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Wele fi i'th erbyn, Sidon; fel y'm gogonedder yn dy ganol, ac y gwypont mai myfi yw yr ARGLWYDD, pan wnelwyf ynddi farnedigaethau, ac y'm sancteiddier ynddi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dywed fel yma, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Gwylia dy hun! Dw i'n mynd i ddelio gyda ti, Sidon. Dw i'n mynd i ddangos fy ysblander yn dy ganol di. Bydd pobl yn gweld mai fi ydy'r ARGLWYDD pan fydda i'n ei barnu hi, ac yn dangos y gallu sydd gen i a neb arall.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a dywed, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Yr wyf yn dy erbyn, O Sidon, ac amlygaf fy ngogoniant yn dy ganol. Byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, pan weithredaf fy nghosb arni ac amlygu fy sancteiddrwydd ynddi.