Ezekiel 28:23 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys anfonaf iddi haint, a gwaed i'w heolydd; a bernir yr archolledig o'i mewn â'r cleddyf, yr hwn fydd arni oddi amgylch; a chânt wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydda i'n anfon afiechydon ofnadwy a thrais ar ei strydoedd. Bydd ei phobl yn cael eu lladd wrth i fyddin ymosod arni o bob cyfeiriad. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Anfonaf bla iddi, a thywallt gwaed ar ei heolydd; syrth y lladdedigion o'i mewn o achos y cleddyf sydd o'i hamgylch. Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.'