Ezekiel 28:24 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ni bydd mwy i dŷ Israel, o'r holl rai o'u hamgylch a'r a'u dirmygasant, ysbyddaden bigog, na draenen ofidus; a chânt wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD DDUW.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“‘Fydd pobl Israel ddim yn gorfod diodde eu cymdogion maleisus yn pigo ac yn rhwygo fel drain a mieri. A byddan nhw hefyd yn deall mai fi ydy'r ARGLWYDD, y Meistr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Ni fydd gan du375? Israel mwyach fieri i'w pigo na drain i'w poeni ymysg yr holl gymdogion a fu'n eu dilorni. Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r Arglwydd DDUW.