Ezekiel 29:12 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A mi a wnaf wlad yr Aifft yn anghyfannedd yng nghanol gwledydd anghyfanheddol, a'i dinasoedd fyddant yn anghyfannedd ddeugain mlynedd yng nghanol dinasoedd anrheithiedig; a mi a wasgaraf yr Eifftiaid ymysg y cenhedloedd, ac a'u taenaf hwynt ar hyd y gwledydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydda i'n gwneud gwlad yr Aifft yn anialwch gwaeth nag unrhyw wlad. Bydd ei threfi a'i dinasoedd yn adfeilion. Bydd pobl yr Aifft yn cael eu gyrru ar chwâl drwy'r gwledydd i gyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fe wnaf wlad yr Aifft yn anrhaith ymysg gwledydd anrheithiedig, a bydd ei dinasoedd yn anrheithiedig am ddeugain mlynedd ymysg dinasoedd anghyfannedd. Byddaf yn gwasgaru'r Eifftiaid ymysg y cenhedloedd, ac yn eu chwalu trwy'r gwledydd.