Ezekiel 29:4 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr gosodaf fachau yn dy fochgernau, a gwnaf i bysgod dy afonydd lynu yn dy emau, a chodaf di o ganol dy afonydd; ie, holl bysgod dy afonydd a lynant wrth dy emau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydda i'n rhoi bachyn yn dy ên ac yn dy lusgo allan o'r dŵr gyda pysgod o'r ffosydd yn glynu wrth dy groen.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhof fachau yn dy safn, a gwneud i bysgod dy afonydd lynu wrth gen dy groen; tynnaf di i fyny o ganol dy afonydd gyda'u holl bysgod yn glynu wrth gen dy groen.