Ezekiel 29:5 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A mi a'th adawaf yn yr anialwch, ti a holl bysgod dy afonydd: syrthi ar wyneb y maes, ni'th gesglir, ac ni'th gynullir; i fwystfilod y maes ac i ehediaid y nefoedd y'th roddais yn ymborth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydda i'n dy daflu i'r anialwch, ti a physgod y ffosydd. Byddi'n gorwedd, heb dy gladdu, i farw ar dir agored — yn fwyd i'r anifeiliaid ac i'r adar.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fe'th fwriaf i'r anialwch, ti a holl bysgod dy afonydd; syrthi ar wyneb y ddaear heb dy gasglu na'th gladdu; rhof di'n fwyd i'r anifeiliaid gwylltion a'r adar.