Ezekiel 3:20 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hefyd pan ddychwelo y cyfiawn oddi wrth ei gyfiawnder, a gwneuthur camwedd, a rhoddi ohonof dramgwydd o'i flaen ef, efe fydd farw: am na rybuddiaist ef, am ei bechod y bydd efe farw, a'i gyfiawnder yr hwn a wnaeth efe ni chofir; ond ei waed ef a ofynnaf ar dy law di.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ar y llaw arall, os ydy rhywun sydd fel arfer yn gwneud beth sy'n iawn yn newid ei ffyrdd ac yn dechrau gwneud pethau drwg, bydda i'n achosi i rywbeth ddigwydd fydd yn gwneud i'r person hwnnw syrthio. Bydd e'n marw. Os na fyddi di wedi ei rybuddio bydd e'n marw am ei fod wedi pechu. Fydd y pethau da wnaeth e o'r blaen ddim yn cyfrif. A bydda i'n dy ddal di'n gyfrifol am beth fydd yn digwydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os bydd un cyfiawn yn troi oddi wrth gyfiawnder ac yn gwneud drwg, a minnau wedi rhoi rhwystr o'i flaen, bydd farw; am na rybuddiaist ef, bydd farw am ei gamwedd, ac ni chofir y pethau cyfiawn a wnaeth; ond byddaf yn dy ddal di yn gyfrifol am ei waed.