Ezekiel 3:22 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yno y bu llaw yr ARGLWYDD arnaf, ac efe a ddywedodd wrthyf, Cyfod, dos i'r gwastadedd, ac yno y llefaraf wrthyt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma ddylanwad yr ARGLWYDD yn dod arna i, a dyma fe'n dweud, “Cod ar dy draed. Dos allan i'r dyffryn, a bydda i'n siarad gyda ti yno.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth llaw yr ARGLWYDD arnaf yno, a dywedodd wrthyf, "Cod a dos i'r gwastadedd, ac fe lefaraf wrthyt yno."