Ezekiel 3:23 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y cyfodais, ac yr euthum i'r gwastadedd: ac wele ogoniant yr ARGLWYDD yn sefyll yno, fel y gogoniant a welswn wrth afon Chebar: a mi a syrthiais ar fy wyneb.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma fi'n codi'n syth, ac yn mynd allan i'r dyffryn. A dyma fi'n gweld ysblander yr ARGLWYDD eto, yn union yr un fath ag wrth Gamlas Cebar. Syrthiais ar fy ngwyneb ar lawr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Codais a mynd i'r gwastadedd, ac yr oedd gogoniant yr ARGLWYDD yn sefyll yno, yn union fel y gogoniant a welais wrth afon Chebar, a syrthiais ar fy wyneb.