Ezekiel 3:27 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond pan lefarwyf wrthyt, yr agoraf dy safn, a dywedi wrthynt, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW: Yr hwn a wrandawo, gwrandawed; a'r hwn a beidio, peidied: canys tŷ gwrthryfelgar ydynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond pan fydd gen i rywbeth i'w ddweud wrthot ti, bydda i'n agor dy geg di i ti allu dweud wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud.’ Cân nhw ddewis os ydyn nhw am wrando neu beidio. Maen nhw'n griw o rebeliaid.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond pan lefaraf fi wrthyt, fe agoraf dy enau, ac fe ddywedi wrthynt, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW.' Bydded i'r sawl sy'n gwrando arnat wrando, ac i'r sawl sy'n gwrthod wrthod; oherwydd tylwyth gwrthryfelgar ydynt.