Ezekiel 30:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwnaf hefyd yr afonydd yn sychder, a gwerthaf y wlad i law y drygionus; ie, anrheithiaf y wlad a'i chyflawnder trwy law dieithriaid: myfi yr ARGLWYDD a'i dywedodd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydda i'n sychu ei ffosydd, ac yn rhoi'r wlad yn nwylo dynion drwg. Bydda i'n defnyddio byddin estron i ddinistrio'r wlad a phopeth ynddi. Yr ARGLWYDD ydw i, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Sychaf yr afonydd hefyd, a gwerthu'r wlad i rai drwg; trwy ddwylo estroniaid anrheithiaf y wlad a phopeth sydd ynddi. Myfi yr ARGLWYDD a lefarodd.