Ezekiel 30:13 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Difethaf hefyd y delwau, a gwnaf i'r eilunod ddarfod o Noff; ac ni bydd tywysog mwyach o dir yr Aifft: ac ofn a roddaf yn nhir yr Aifft.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i ddinistrio dy eilunod, a chael gwared â duwiau diwerth Memffis. Fydd neb ar ôl i arwain gwlad yr Aifft. Bydd dychryn drwy'r wlad i gyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Dinistriaf yr eilunod a rhof ddiwedd ar y delwau sydd yn Noff; ni fydd tywysog yng ngwlad yr Aifft mwyach, a pharaf fod ofn trwy'r wlad.