Ezekiel 30:25 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond mi a gadarnhaf freichiau brenin Babilon, a breichiau Pharo a syrthiant; fel y gwypont mai myfi yw yr ARGLWYDD, wedi i mi roddi fy nghleddyf yn llaw brenin Babilon, ac iddo yntau ei estyn ef ar wlad yr Aifft.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydda i'n cryfhau breichiau brenin Babilon, ond bydd breichiau'r Pharo yn llipa. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD, ac mai fi sydd wedi rhoi'r cleddyf yn llaw brenin Babilon iddo ymosod ar wlad yr Aifft.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atgyfnerthaf freichiau brenin Babilon, ond bydd breichiau Pharo'n llipa. Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, pan rof fy nghleddyf yn llaw brenin Babilon, ac yntau'n ei ysgwyd yn erbyn gwlad yr Aifft.