Ezekiel 30:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Y rhai sydd yn cynnal yr Aifft a syrthiant hefyd, a balchder ei nerth hi a ddisgyn: syrthiant ynddi gan y cleddyf o dŵr Syene, medd yr Arglwydd DDUW.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Bydd y rhai sy'n cefnogi'r Aifft yn syrthio. Bydd ei balchder yn ei grym yn chwilfriw! Bydd pawb yn cael eu lladd yn y brwydro yr holl ffordd o Migdol i Aswan.’” —y Meistr, yr ARGLWYDD, sy'n dweud hyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Bydd y rhai sy'n cefnogi'r Aifft yn syrthio, a darostyngir ei grym balch; o Migdol i Aswan byddant yn syrthio trwy'r cleddyf,' medd yr Arglwydd DDUW.