Ezekiel 30:7 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a wneir yn anghyfannedd ymhlith y gwledydd anghyfanheddol, a'i dinasoedd fydd yng nghanol y dinasoedd anrheithiedig.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“‘Bydd yr Aifft yn anialwch gwaeth nag unrhyw wlad. Bydd ei threfi a'i dinasoedd yn adfeilion.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
'Byddant yn anrhaith ymysg gwledydd anrheithiedig, a bydd eu dinasoedd ymysg dinasoedd anghyfannedd.